Am fy mod i mor llygredig Ac ymadel ynddwy' i'n llawn, Mae bod yn dy fynydd sanctaidd Imi'n fraint oruchel iawn; Lle mae'r llenni yn cael eu rhwygo, Mae difa'r gorchudd yno o hyd, A rhagoroldeb dy ogoniant Ar ddarfodedig bethau'r byd.
O am bara i uchel yfed O ffrydiau'r iechydwriaeth fawr Nes fy nghwbwl ddisychedu Am ddarfodedig bethau'r llawr; Byw dan ddisgwyl am fy Arglwydd, Bod, pan dd�l, yn effro iawn, I agoryd iddo'n ebrwydd A mwynhau ei ddelw'n llawn. |