Hen Wlad fy Nhadau Mae hen wlad fy nhadau yn anwyl i mi Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri Ei gwrol rhyfelwyr, gwlad garwyr tra mad Tros ryddid collasant eu gwaed.
Cytgan: Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad Tra mor yn fur I'r bur hoff bau O bydded i'r heniaith barhau.
Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si Ei nentydd, afonydd, i mi.
Cytgan:
Os treisiodd y gelyn fy ngwlad dan ei droed Mae hen iaith y Cymry mor fyw ag erioed Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad Na thelyn berseiniol fy ngwlad.
Cytgan:
|