Ym mhalas Llwyn Onn gynt, fe drigai pendefig, Efe oedd ysgweiar ac arglwydd y wlad; Ac iddo un eneth a anwyd yn unig, A hi n�l yr hanes oedd aeres ei thad. Aeth cariad i'w gweled yn l�n a phur lencyn, Ond codai'r ysgweiar yn araf ac erch, I aethu'r bachgennyn, ond gwyrodd ei linyn, A'i ergyd yn wyrgam i fynwes ei ferch. Rhy hwyr ydoedd galw y saeth at y llinyn �'r llances yn marw yn welw a gwan; Bygythiodd ei gleddyf trwy galon y llencyn, Ond ni redai cariad un fodfedd o'r fan. Roedd golud, ei darpar, yn hen ac anynad, A geiriau diwethaf yr aeres hardd hon, Oedd, 'Gwell gennyf farw trwy ergyd fy nghariad Na byw gyda golud ym mhalas Llwyn Onn.'
Y lloer oedd yn codi dros gopa'r hen dderwen A'r haul a fachludai i ddyfnder y don. A minnau mewn cariad a'm calon yn curo, Yn disgwyl f'anwylyd dan gysgod Llwyn Onn. Mor wyn y bythynnod gwyngalchog ar wasgar Hyd erchwyn cyfoethog mynyddig fy mro: Adwaenwn bob tyddyn, pob boncyff a brigyn Lle deuai cariadon i rodio'n eu tro.
Mor hir y bu'r disgwyl o fore hyd noswyl, Mor gyndyn bu'r diwrnod yn dirwyn i ben: A minnau mor hapus, ac eto mor glwyfus, A'm meddwl a'm calon yn eiddo i Gwen: Cysgodion yr hwyr oedd yn taenu eu cwrlid, A hir oedd ymaros ar noson fel hon; Ond pan ddaeth fy nghariad cyflymai pob eiliad, Aeth awr ar amrantiad, dan gysgod Llwyn Onn. |