Mae bod yn fyw o fawr ryfeddod O fewn ffwrneisiau sydd mor boeth, Ond mwy rhyfedd, wedi 'mhrofi, Y dof i'r canol fel aur coeth; Amser cannu, diwrnod nithio, Eto'n dawel, heb ddim braw; Y Gwr a fydd i mi'n ymguddfa Y sydd �'r wyntyll yn ei law.
Blin yw 'mywyd gan elynion Am eu bod yn amal iawn; Fy amgylchu maent fel gwenyn O foreddydd hyd brynhawn; A'r rhai o'm tŷ fy hun yn benna' Yn blaenori uffernol gad; Trwy gymorth gras yr wyf am bara I ryfela hyd at waed. |