Bryn Calfaria Cymer, Iesu, fi fel' rydwyf, Fyth ni allaf fod yn well; Dallu di am gwna yn agos, Fewyllys i yw mynd ymhell Yn, dy glwyfau, yn dy glwyfau, Bydda'i'n unig fyth yn iach Bydda'i'n unig fyth yn iach.
Mi ddiffygiais deithior crastir Dyrys anial wrthyf f''hun Ac mi fethais � choncwerio O'm gelynion lleiaf un Mae dy enw, Mae dy enw, Mae dy enw 'N able i beri i'r cryfaf ffoi, 'N able i beri i'r cryfaf ffoi
Gwaed y Groes sy'n codi i fyny, 'Reiddil yn goncwerwr mawr: Gwaed dy Groes sydd yn darostwng, Cewri cedyrn fyrdd i lawr. Gad im deimlo, Gad im deilo, Gad im deimlo Awel O Galfaria fryn, Awel O Galfaria fryn.
Ymddiried af yn dy allu, Mawr yw'r gwaith a wnest erioed; Ti gest angeu, Ti gest uffern, Ti gest Satan dan dy droed. Pen Calfar-ia, Pen Calfar-ia, Pen Calfaria, Nac aed hwnw byth om cof! Nac aed hwnw byth om cof! |