Nid wy'n gofyn bywyd moethus Aur y byd na'i berlau mān Gofyn rwyf am calon hapus Calon onest, calon lān. Cytgan: Calon lān yn llawn daioni Tecach yw na'r lili dlos Does ond calon lān all ganu Canu'r dydd a chanu'r nos.
Pe dymunwn olud bydol Chwim adenydd iddo sydd Golud calon lān rinweddol Yn dwyn bythol elw fydd.
Cytgan:
Hwyr a bore fy nymuniad Esgyn ar adenydd cān Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad Roddi imi galon lān.
Cytgan: |