O'm blaen mi wela' ddrws agored, A modd i hollol gario'r ma's Yng ngrym y rhoddion a dderbyniodd Yr Hwn gymerodd agwedd gwas; Mae'r tywysogaethau wedi eu hysbeilio, A'r awdurdodau, ganddo ynghyd, A'r carcharwr yn y carchar Trwy rinwedd ei ddioddefaint drud.
Fy enaid trist, wrth gofio'r frwydyr, Yn llamu o lawenydd sydd; Gweld y ddeddf yn anrhydeddus A'i throseddwyr mawr yn rhydd; Rhoi Awdwr bywyd i farwolaeth A chladdu'r Atgyfodiad mawr; Dwyn i mewn dragwyddol heddwch Rhwng nef y nef a daear lawr.
Pan esgynnodd 'r Hwn ddisgynnodd Gwedi gorffen yma'r gwaith, Y pyrth oedd yn dyrchafu eu pennau Dan ryfeddu yn eu hiaith; Dorau'n agor, c�r yn bowio I Dduw mewn cnawd yr ochor draw; Y Tad yn siriol a'i gwahoddodd I eistedd ar ei ddeau law.
Digon mewn llifeiriant dyfroedd, Digon yn y fflamau t�n, O! am bara i lynu wrtho, Fy enaid, byth yn ddiwah�n: Ar ddryslyd lwybrau tir Arabia Y mae gelynion fwy na rhi'; Rho gymdeithas dioddefiadau Gwerthfawr angau Calfari. |