Bererin llesg gan rym y stormydd, Cwyd dy olwg, gw�l yn awr Yr Oen yn gweini'r swydd gyfryngol Mewn gwisgoedd llaesion hyd y llawr; Gwregys euraidd o ffyddlondeb, Wrth ei odrau clychau'n llawn O sŵn maddeuant i bechadur Ar gyfri' yr anfeidrol Iawn.
Cofiwch hyn mewn stad o wendid, Yn y dyfroedd at eich fferau sy, Mai dirifedi yw'r cufyddau A fesurir i chwi fry; Er bod yn blant yr atgyfodiad I nofio yn y dyfroedd hyn, Ni welir gwaelod byth nac ymyl I sylwedd mawr Bethesda lyn.
O! ddyfnderoedd iechydwriaeth, Dirgelwch mawr duwioldeb yw, Duw y duwiau wedi ymddangos Yng nghnawd a natur dynol-ryw; Dyma'r Person a ddioddefodd Yn ein lle ddigofaint llawn, Nes i Gyfiawnder weiddi, "Gollwng Ef yn rhydd: mi gefais Iawn!"
O! ddedwydd awr tragwyddol orffwys Oddi wrth fy llafur yn fy rhan, Ynghanol m�r o ryfeddodau Heb weled terfyn byth, na glan; Mynediad helaeth byth i bara I fewn trigfannau Tri yn Un; Dŵr i'w nofio heb fynd trwyddo, Dyn yn Dduw, a Duw yn ddyn. |