Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd Wrthrych teilwng o fy mryd; Er mai o ran, yr wy'n adnabod Ei fod uwchlaw gwrthrychau'r byd:
Henffych fore
Y caf ei weled fel y mae.
Rhosyn Saron yw ei enw, Gwyn a gwridog, teg o bryd; Ar ddeng mil y mae'n rhagori O wrthrychau penna'r byd:
Ffrind pechadur,
Dyma ei beilat ar y m�r.
Beth sy imi mwy a wnelwyf Ag eilunod gwael y llawr? Tystio'r wyf nad yw eu cwmni I'w cystadlu � Iesu mawr:
O! am aros
Yn ei gariad ddyddiau f'oes. |