Rhyfedd, rhyfedd gan angylion, Rhyfeddod fawr yng ngolwg ffydd, Gweld Rhoddwr bod, Cynhaliwr helaeth A Rheolwr pob peth sydd, Yn y preseb mewn cadachau A heb le i roi ei ben i lawr, Ac eto disglair lu'r gogoniant Yn ei addoli'n Arglwydd mawr.
Pan fo Sinai i gyd yn mygu A sŵn yr utgorn uwcha' ei radd, Caf fynd i wledda tros y terfyn Yng Nghrist y Gair heb gael fy lladd; Mae ynddo'n trigo bob cyflawnder, Llond gwagle colledigaeth dyn; Ar yr adwy rhwng y ddwyblaid Gwnaeth gymod trwy ei offrymu ei hun.
Efe yw'r Iawn fu rhwng y lladron, Efe ddioddefodd angau loes, Efe a nerthodd freichiau ei ddienyddwyr I'w hoelio yno ar y groes; Wrth dalu dyled pentewynion, Ac anrhydeddu deddf ei Dad, Cyfiawnder, mae'n disgleirio'n danbaid Wrth faddau yn nhrefn y cymod rhad.
O! f'enaid, gw�l y fan gorweddodd Pen brenhinoedd, Awdwr hedd, Y greadigaeth ynddo'n symud, Yntau'n farw yn y bedd; C�n a bywyd colledigion, Rhyfeddod fwya' angylion nef; Gweld Duw mewn cnawd a'i gydaddoli Mae'r c�r, dan weiddi "Iddo Ef!"
Diolch byth, a chanmil diolch, Diolch tra bo ynwy' i chwyth, Am fod gwrthrych i'w addoli A thestun c�n i bara byth; Yn fy natur wedi ei demtio Fel y gwaela' o ddynol-ryw, Yn ddyn bach, yn wan, yn ddinerth, Yn anfeidrol wir a bywiol Dduw.
Yn lle cario corff o lygredd, Cyd-dreiddio �'r c�r yn danllyd fry I ddiderfyn ryfeddodau Iechydwriaeth Calfari; Byw i weld yr Anweledig, Fu farw ac sy'n awr yn fyw; Tragwyddol anwahanol undeb A chymundeb � fy Nuw.
Yno caf ddyrchafu'r Enw A osododd Duw yn Iawn, Heb ddychymyg, llen, na gorchudd, A'm henaid ar ei ddelw'n llawn; Yng nghymdeithas y dirgelwch, Datguddiedig yn ei glwy', Cusanu'r Mab i dragwyddoldeb Heb im gefnu arno mwy. |